Change that leads to better lives

Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion

Yn 2020, adnewyddodd NDTi gyfres o ddeunyddiau cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fel rhan o’n darpariaeth o’r rhaglen Paratoi ar gyfer Oedolaeth; cyn defnyddio'r deunyddiau hyn, darllenwch y cyflwyniad hwn yn ogystal â'r canllawiau a ddarperir gyda phob offeryn.

Welsh Pf A Resource Image 1

Mae cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion wedi cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ers dechrau’r 1980au, yn bennaf ymhlith teuluoedd ond hefyd gan sefydliadau cymunedol ac academaidd. Er enghraifft, yn 1983, dechreuodd Prifysgol Dwyrain Llundain gynnig rhaglenni arwain teuluol a oedd yn dysgu pwysigrwydd cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn cynnwys plant yn eu cymunedau lleol a rhoi’r un hawliau â phob plentyn arall iddyn nhw. Ar raglen hyfforddi athrawon addysg bellach Prifysgol Bolton, cyflwynwyd cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion fel ffordd o roi’r hyder i raddedigion gynnwys myfyrwyr a oedd yn oedolion, ac a oedd ag anableddau dysgu, yn y dosbarthiadau prif ffrwd. Bydden nhw’n dysgu am gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion yn ogystal ag am Gylchoedd Cyfeillion, model cymdeithasol anabledd, dulliau cadarnhaol o ddelio ag ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, cymorth gan gymheiriaid, a dysgu drwy berthnasau.

Cliciwch yma i weld ein Hadnodd Cynllunio Person-Ganolog penodol i Gymru yn yr iaith Gymraeg.

Cliciwch yma i weld ein Hadnodd Cynllunio Person-Ganolog penodol i Gymru yn yr iaith Saesneg

Subscribe to NDTi News

Thank you for taking the time to subscribe.